- Hafan
- Cyfleusterau
- Hanes
- Clwb Gwaith
- Ydych chi'n edrych am waith?
- Ydych chi'n edrych am staff?
- Marchnad Gynnyrch Lleol
- Digwyddiadau Nesaf
- Newyddion
- Cysylltu
- Dod o hyd inni
- Gwylio pwysau
- Lles Adfywio
- Sefydliad y Merched
- Côr Meibion Hendy Gwyn
- Gyrfaoedd Chwist
- Cymdeithas Efeillio Hendy-Gwyn a’r Cylch
Neuadd Goffa Hendy Gwyn - Tudalen Hafan
Croeso i Neuadd Goffa Hendy Gwyn a saif ar ganol tref Hendygwyn-ar-Daf, gyda Pharc Dr. Owen o' r tu ôl iddi a' r Ysgol Gynradd gerllaw.
Mae'
n le delfrydol gyda sbectrwm eang o ddigwyddiadau:
achlysuron
codi arian, cyfarfodydd cyhoeddus, gweithgareddau, sioeau a phartïon
penblwydd i blant ac oedolion. Mae'
r neuadd ar gael i'
w llogi saith
niwrnod yr wythnos.
Mae Hendygwyn-ar-Daf ar ffin Sir Gaerfyrddin ac felly mae' n ganolfan ddelfrydol i wasanaethu cymunedau cyfagos yn Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â Sir Gaerfyrddin. Amgylchynir y dref gan ardaloedd gwledig prydferth ond er hynny, mae' n agos iawn i' r A.40, y briffordd sy' n cysylltu Llundain â' r Iwerddon. Mae' n le canolog iawn - 20 munud gyda char o Gaerfyrddin (i' r Dwyrain), 30 munud o Hwlffordd (i' r Gorllewin), 40 munud o Aberteifi (i' r Gogledd) a 30 munud i Ddinbych y Pysgod (i' r De).
Mae arhosfan bws un funud o' r Neuadd a Gorsaf Reilffordd rhyw bedair munud o gerdded.
Adeiladwyd Neuadd Goffa Hendy Gwyn ym 1927 "i' w defnyddio' n wastadol fel man adloniant a chyfeillach gymdeithasol er budd trigolion tref Hendygwyn-ar-Daf yn ddiwahaniaeth o enwad na gwleidyddiaeth". Yn y Neuadd mae cofeb gydag enwau' r rhai a gollodd eu bywyd yn y ddwy Ryfel Byd a chynhelir gwasanaeth yno' n flynyddol ar Ddydd y Cofio.
Mae' r Neuadd yn Elusen Gofrestredig (rhif 518760) yn gweithredu fel busnes ‘nid er elw' ac yn dibynnu' n gyfangwbl ar dderbyniadau hunangynhyrchiol.
Gallwch weld y costau llogi a phryd mae' r Neuadd ar gael, darllen yr amodau a dadlwytho ffurflen logi drwy ddefnyddio' r safle hwn.
Ymholiadau pellach: cysylltwch â ni ar y lein neu ffonio 01994 448701.
Tuesday - Apr 10, 2018
10:53 am
WWI Centenary Commemorations (2014-2018)
Read more...
|
Wednesday - Jan 24, 2018
12:31 pm
We are in the process of having our website re-designed and updated
Read more...
|